RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 2ADOLYGIADAU
I1176Cynnal adolygiad
1
Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i ACC o dan yr amgylchiadau.
2
At ddiben is-adran (1), rhaid i ACC, yn benodol, roi sylw i gamau a gymerwyd cyn dechrau’r adolygiad—
a
gan ACC wrth ddod i’r penderfyniad, a
b
gan unrhyw berson wrth geisio datrys anghytundeb ynghylch y penderfyniad.
3
Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir neu a wnaed gan y person a roddodd yr hysbysiad am gais ar adeg sy’n rhoi cyfle rhesymol i ACC eu hystyried.
4
Caiff yr adolygiad ddod i’r casgliad bod penderfyniad ACC—
a
i’w gadarnhau,
b
i’w amrywio, neu
c
i’w ganslo.
5
Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais—
a
o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y derbyniodd ACC yr hysbysiad am gais, neu
b
o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.
6
Pan fo’r tribiwnlys yn cyfarwyddo ACC i gynnal adolygiad, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad—
a
o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys y cyfarwyddyd, neu
b
o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.
7
Os yw ACC yn methu â dyroddi hysbysiad yn unol ag is-adran (5) neu (6)—
a
bernir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, a
b
rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais.