Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1181CTerfyn amser ar gyfer gwneud cais i ohirioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag adolygiad drwy roi hysbysiad o’r cais i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174 ar gyfer gofyn am yr adolygiad.

(2)Ond os gwneir cais hwyr am adolygiad o dan adran 175, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd â’r cais hwyr.

(3)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag apêl drwy roi hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl.

(4)Ond os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd i wneud apêl hwyr o dan adran 180, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd ag y ceisir caniatâd ar gyfer yr apêl hwyr.

(5)Mae is-adrannau (1) a (3) yn ddarostyngedig i adran 181D.]