RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
F1PENNOD 3ATALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG F2ETC SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL
Gair yn Rhn. 8 Pnd. 3A pennawd wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 44
181FAmrywio ar ôl caniatáu cais i ohirio
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
a
ACC neu’r tribiwnlys wedi caniatáu cais i ohirio,
b
newid mewn amgylchiadau wedi hynny, ac
c
o ganlyniad i’r newid hwnnw, naill ai ACC neu’r person a wnaeth y cais yn credu—
i
y dylid amrywio’r swm o dreth ddatganoledig y caniatawyd y cais mewn cysylltiad ef;
ii
pan fo caniatáu’r cais yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol, y dylid amrywio’r amod.
2
Caiff y naill barti neu’r llall geisio cytundeb ei gilydd drwy ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r amrywiad arfaethedig i’r parti arall.
3
Os ceir cytundeb, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r amrywiad i’r person.
4
Mae’r amrywiad yn cael effaith o’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o dan is-adran (3).
5
Os na cheir cytundeb o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o dan is-adran (2), caiff y naill barti neu’r llall wneud cais i’r tribiwnlys am ddyfarniad.
6
Caiff y tribiwnlys ddyfarnu ar gais o’r fath drwy—
a
cadarnhau’r amrywiad arfaethedig,
b
gwrthod yr amrywiad arfaethedig, neu
c
gwneud unrhyw amrywiad arall sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.
Rhn. 8 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 63; O.S. 2018/34, ergl. 3