RHAN 8LL+CADOLYGIADAU AC APELAU

[F1PENNOD 3ALL+CTALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG [F2ETC] SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL]

[F3181J.Cymhwyso’r Bennod hon i symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—

(a)fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,

(b)fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac

(c)fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.]