RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU

F1PENNOD 3ATALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG F2ETC SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL

Annotations:

181JF3Cymhwyso’r Bennod hon i symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

1

Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—

a

fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,

b

fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac

c

fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.