RHAN 10LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

189RheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 18(2), [F1122(5),] 156 neu 172(7) (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth arall) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 189 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)