RHAN 10DARPARIAETHAU TERFYNOL

190Dyroddi hysbysiadau gan ACC

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani, yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i berson (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “dyroddi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (9)).

2

Caniateir dyroddi’r hysbysiad i’r person—

a

drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

b

drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

c

drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

d

pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad i’w ddyroddi iddo wedi cytuno mewn ysgrifen iddo gael ei anfon yn electronig.

4

At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

5

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

6

At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

a

yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

b

yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

c

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

7

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

8

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

9

Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad y gall ACC

a

ei ddarparu i berson o dan adran 103(4) neu 105(3), neu

b

ei roi i’r tribiwnlys.

10

Yn yr adran hon mae “hysbysiad” yn cynnwys copi o hysbysiad.