RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Arian
I125Talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru
1
Rhaid i ACC dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.
2
Ond caiff ACC wneud hynny ar ôl didynnu alldaliadau ar ffurf ad-daliadau o drethi datganoledig (gan gynnwys llog ar ad-daliadau o’r fath) a chredydau mewn cysylltiad â threthi datganoledig.