RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 2DYLETSWYDDAU TRETHDALWR I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL
38Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
1
Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth—
a
cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen er mwyn galluogi’r person i ddychwelyd ffurflen dreth gywir a chyflawn, a
b
storio’r cofnodion hynny yn ddiogel yn unol â’r adran hon.
2
Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd yr hwyraf o’r diwrnod perthnasol—
a
a’r diwrnod y cwblheir ymholiad i’r ffurflen dreth (gweler adran 50), neu
b
os nad oes ymholiad, a’r diwrnod pan pan fydd pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r ffurflen dreth yn dod i ben (gweler adran 43).
3
Ystyr “y diwrnod perthnasol” yw—
a
6 mlynedd i’r diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth neu, os diwygir y ffurflen dreth, i’r diwrnod y rhoddir hysbysiad diwygio o dan adran 41, neu
b
unrhyw ddiwrnod cynharach a bennir gan ACC.
4
Caniateir pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (3)(b).
5
Mae’r cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys—
a
manylion unrhyw drafodiad perthnasol (gan gynnwys offerynnau perthnasol yn ymwneud ag unrhyw drafodiad: yn benodol, unrhyw gontract neu drawsgludiad, ac unrhyw fapiau, blaniau neu ddogfennau tebyg sy’n ategol iddo);
b
manylion unrhyw weithgarwch sy’n ddarostyngedig i dreth ddatganoledig;
c
cofnodion taliadau, derbyniadau a threfniadau ariannol perthnasol.
6
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
a
darparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath;
b
rhagnodi disgrifiadau o ddogfennau ategol y mae’n ofynnol eu cadw o dan yr adran hon.
7
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan ACC yn unol â’r rheoliadau (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan hysbysiad dilynol).
8
Mae “dogfennau ategol” yn cynnwys cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.