(1)Caiff person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth ei diwygio drwy roi hysbysiad i ACC.
(2)Rhaid gwneud diwygiad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol (y cyfeirir ato yn adran 42 fel y “cyfnod diwygio”).
[F1(3)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad ffeilio.
(3A)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn rhagnodi dyddiad arall mewn rheoliadau o dan yr is-adran hon, y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad hwnnw.]
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 45(3) a 50.
Diwygiadau Testunol
F1A. 41(3)(3A) wedi ei amnewid ar gyfer a. 41(3) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 10; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 41 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3