RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 3LL+CFFURFLENNI TRETH

Diwygio a chywiro ffurflenni trethLL+C

41Trethdalwr yn diwygio ffurflen drethLL+C

(1)Caiff person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth ei diwygio drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Rhaid gwneud diwygiad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol (y cyfeirir ato yn adran 42 fel y “cyfnod diwygio”).

[F1(3)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad ffeilio.

(3A)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn rhagnodi dyddiad arall mewn rheoliadau o dan yr is-adran hon, y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad hwnnw.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 45(3) a 50.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 41 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3