(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn datgan—
(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a
(b)casgliadau’r ymholiad.
(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—
(a)datgan nad yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen dreth ym marn ACC, neu
(b)gwneud y diwygiadau i’r ffurflen dreth sy’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i gasgliadau ACC.
(3)Pan ddyroddir hysbysiad cau sy’n gwneud diwygiadau i ffurflen dreth, ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan adran 41.
(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig [F1sy’n daladwy] o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan hysbysiad cau cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 50(4) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 15; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3