RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 6ASESIADAU ACC
Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodol
I1I254Asesu treth a gollir
Os daw ACC i’r casgliad—
a
nad aseswyd swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu fel treth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson,
b
bod asesiad o’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, neu
c
bod F1rhyddhad mewn perthynas â threth ddatganoledig wedi ei hawlio neu wedi ei roi, sy’n ormodol neu wedi dod yn ormodol,
caiff ACC asesu’r swm neu’r swm pellach y dylid ei godi yn ei farn ef er mwyn gwneud iawn am y dreth ddatganoledig a gollir.