RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 6ASESIADAU ACC
Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodol
I2I155Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodol
1
Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.
2
Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.