(1)O ran asesiad ACC—
(a)caniateir ei wneud yn y [F1pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F2(2), (3) [F3, (3A) a (3B)]] yn unig, a
(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).
(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—
(a)y trethdalwr,
(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu
(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.
[F4(3)Yr ail achos yw—
(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,
(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac
(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]
[F5(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]
[F6(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]
(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F7yn yr achos cyntaf na’r ail achos] —
(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F8mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a
(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 58(1)(a) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 15(2)(a)
F2Geiriau yn a. 58(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(a)(ii); O.S. 2018/34, ergl. 3
F3Geiriau yn a. 58(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 15(2)(b)
F4A. 58(3) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
F5A. 58(3A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(c); O.S. 2018/34, ergl. 3
F6A. 58(3B) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 15(3)
F7Geiriau yn a. 58(4) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(d)(i); O.S. 2018/34, ergl. 3
F8Geiriau yn a. 58(4)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(d)(ii); O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 58 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(2); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3