Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

58Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACCLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)O ran asesiad ACC—

(a)caniateir ei wneud yn y [F1pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F2(2), (3) [F3, (3A) a (3B)]] yn unig, a

(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

(a)y trethdalwr,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

[F4(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]

[F5(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]

[F6(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]

(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F7yn yr achos cyntaf na’r ail achos]

(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F8mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3