71Hawlydd yn diwygio hawliadLL+C
(1)Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 [F1, 63 neu 63A] ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.
(2)Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—
(a)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu
(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—
(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a
(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 71(1) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 31; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 71 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3