xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff ACC wneud ymholiad i hawliad person neu i’w ddiwygiad o hawliad os yw’n dyroddi hysbysiad i’r hawlydd o’i fwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad neu’r diwygiad.
(2)Ni chaiff hawliad neu ddiwygiad a fu’n destun un hysbysiad ymholiad fod yn destun un arall.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 74-77 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhlau. 1(2), 27
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 74 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3