F1RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

Annotations:

Gwrthweithio manteision treth

81GHysbysiad gwrthweithio terfynol

1

Rhaid i ACC, ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau a grybwyllir yn adran 81F(2)(e)(i) neu unrhyw gyfnod hwy y mae ACC wedi cytuno iddo, ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio terfynol”) i’r trethdalwr.

2

Rhaid i hysbysiad gwrthweithio terfynol ddatgan pa un a yw’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant osgoi trethi i’w gwrthweithio drwy addasiad o dan adran 81E.

3

Wrth benderfynu pa un a yw’r fantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir gan y trethdalwr.

4

Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan bod mantais drethiannol i’w gwrthweithio drwy addasiad rhaid i’r hysbysiad hefyd—

a

pennu’r addasiad sy’n ofynnol i roi effaith i’r gwrthweithio,

b

pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, pennu’r diwygiad i’r ffurflen dreth sydd i’w gynnwys yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50 pan fydd ACC yn llunio ei gasgliadau ar yr ymholiad,

c

pan na fo paragraff (b) yn gymwys—

i

cynnwys gydag ef yr asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, neu

ii

pan wnaed asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, pennu’r asesiad hwnnw, a

d

pennu unrhyw swm—

i

y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu o ganlyniad i’r diwygiad a bennir o dan baragraff (b), neu

ii

y mae’n ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC a grybwyllir ym mharagraff (c).

5

Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan nad yw mantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid iddo ddatgan y rhesymau dros benderfyniad ACC.