[F181IY rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi: cychwyn a darpariaeth drosiannolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drefniant osgoi trethi yr ymrwymir iddo ar y dyddiad y daw’r Rhan hon i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
(2)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill yr ymrwymwyd iddynt cyn y diwrnod hwnnw, mae’r trefniadau eraill hynny i’w hanwybyddu at ddibenion adran 81C(4) oni bai mai canlyniad ystyried y trefniadau eraill hynny fyddai penderfynu nad oedd y trefniant osgoi trethi yn un artiffisial.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 3A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), aau. 66, 81(2)(3); O.S. 2018/34, ergl. 3