Atodlen 9 – Rhyddhad gwerthu ac adlesu
300.Mae’r Atodlen hon yn nodi’r amodau y caniateir rhyddhau’r elfen adlesu o drafodiad gwerthu ac adlesu rhag treth trafodiadau tir oddi tanynt. Mae’r rhyddhad yn darparu mai dim ond unwaith y codir treth trafodiadau tir pan roddir effaith i’r trafodiadau fel rhan o drefniadau ariannu drwy werthu ac adlesu. Mae’r trefniadau’n golygu bod y gwerthwr mewn trafodiad tir (“A”) yn trosglwyddo neu’n rhoi prif fuddiant mewn tir i’r prynwr (“B”), a bod B yn rhoi les i A allan o’r buddiant hwnnw. Codir treth trafodiadau tir ar y trafodiad cyntaf (A i B). Rhoddir rhyddhad ar yr ail drafodiad (B yn rhoi les i A) os bodlonir yr amodau cymhwyso. Bydd y ddau drafodiad yn rhai hysbysadwy.
301.Rhaid bodloni’r amodau a ganlyn er mwyn bod yn gymwys i gael y rhyddhad:
rhaid i’r buddiant a adlesir fod yn fuddiant allan o’r buddiant gwreiddiol;
rhaid rhoi’r trafodiad o A i B yn llwyr neu’n rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad adlesu yr ymrwymir iddo;
yr unig gydnabyddiaeth arall ar gyfer yr elfen werthu, ac eithrio’r adlesu, yw talu arian neu ollwng dyled;
rhaid i’r gwerthu beidio â bod yn drosglwyddo hawliau o dan adran 12 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddo hawliau) nac yn drafodiad cyn-gwblhau fel y’i diffinnir yn Atodlen 2 ar drafodiadau cyn-gwblhau; a
pan fo’r gwerthwr a’r prynwr ill dau yn gwmnïau ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn cael effaith, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp (gweler Atodlen 16).