360.Mae paragraff 16 yn darparu, pan ddatgenir ymddiriedolaeth sy’n rhoi cyfran lesiannol yn yr eiddo i’r prynwr, nad yw’r datganiad i’w drin fel pe bai’n gysylltiol â naill ai:
taliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd cyfatebol ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth; na
trosglwyddiad o fuddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.