Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored
403.Mae paragraff 2 o’r Atodlen hon yn amlinellu’r amodau y caniateir i ryddhad rhag treth trafodiadau tir fod ar gael oddi tanynt pan fo trafodiad tir yn trosglwyddo eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig i gwmni buddsoddi penagored, pan fo’r ddau yn cyfuno. Mae’r amodau’n darparu bod rhyddhad wedi ei gyfyngu i’r achosion hynny pan fo:
holl eiddo’r ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn dod yn rhan o eiddo’r cwmni buddsoddi penagored (ond nid ei holl eiddo);
yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn cael eu diddymu fel rhan o’r trefniadau uno;
y gydnabyddiaeth a roddir o dan y trefniadau ar ffurf, neu’n cynnwys, dyroddi cyfranddaliadau yn y cwmni buddsoddi penagored i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd;
y cyfranddaliadau yn cael eu dyroddi yn ôl yr un gyfran â’r unedau a ddiddymwyd a oedd yn cael eu dal; ac
y gydnabyddiaeth ar ffurf ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn unig.
404.At ddibenion yr Atodlen hon nid yw’r “holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged” yn cynnwys unrhyw eiddo a gedwir at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau’r ymddiriedolwyr.