RHAN 3LL+CCYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Cyfrifo trethLL+C

24Rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau trethLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu drwy reoliadau y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys yn achos y mathau o drafodiadau trethadwy a ganlyn⁠—

(a)trafodiadau eiddo preswyl,

(b)trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, ac

(c)trafodiadau eiddo amhreswyl.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “band treth” yw swm isaf a swm uchaf (os pennir swm uchaf) o arian y mae cyfradd dreth ganrannol benodedig yn gymwys ohono neu, yn ôl y digwydd, rhyngddynt.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1)(a) ac (c) bennu, yn achos pob math o drafodiad—

(a)band treth y mae cyfradd dreth o 0% yn gymwys iddo (“y band cyfradd sero”),

(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero,

(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

(d)dyddiad pan fo’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.

(4)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1)(b) bennu—

(a)tri band treth neu ragor,

(b)cyfradd dreth gymwys ar gyfer pob band—

(i)y mae’n rhaid iddi, mewn cysylltiad ag unrhyw drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, fod yn uwch na’r gyfradd uchaf a fyddai’n gymwys i unrhyw swm o fewn y band hwnnw pe bai’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl, a

(ii)sydd, ac eithrio yn achos y band isaf, yn uwch na’r gyfradd sy’n gymwys i’r band oddi tano, ac

(c)dyddiad pan fo’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—

(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o bob math o drafodiad trethadwy (gan gynnwys drwy gyfeirio at ddisgrifiadau gwahanol o brynwr);

(b)dyddiadau gwahanol o dan is-adran (3)(d) neu (4)(c) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.

(6)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl—

(a)os prif destun y trafodiad yw buddiant mewn tir sy’n eiddo preswyl, a hynny’n unig, neu

(b)pan fo’r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os prif destun pob trafodiad yw buddiant o’r fath, a hynny’n unig.

(7)Ond os yw Atodlen 5 yn gymwys i drafodiad trethadwy mae’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(8)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo amhreswyl—

(a)os prif destun y trafodiad yw buddiant mewn tir nad yw’n eiddo preswyl, neu os yw’n cynnwys buddiant o’r fath, neu

(b)pan fo’r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yw buddiant o’r fath, neu os yw neu os ydynt yn cynnwys buddiant o’r fath.

(9)Nid yw bandiau treth a chyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy i’r graddau y bo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad ar ffurf rhent (gweler paragraffau 27 a 28 o Atodlen 6 am ddarpariaeth ynghylch y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).

(10)Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 5 drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 24(1)(11) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(b)

I3A. 24(1)(11) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3

I4A. 24(2)-(10) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

25Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau trethLL+C

(1)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 24(1),

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6 (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd preswyl), neu

(c)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(2)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan adran 24(1),

(b)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6, neu

(c)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno,

gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(3)Ond—

(a)os yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (2) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y bleidlais.

(4)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo’r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)wedi ei ddiddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6A. 25 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(c)

26Bandiau treth a chyfraddau treth sy’n gymwys pan fo rheoliadau yn peidio â chael effaithLL+C

(1)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “rheoliadau a wrthodir” yw rheoliadau sy’n peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25;

(b)ystyr “y cyfnod interim” yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir gan reoliadau a wrthodir fel y dyddiad y mae bandiau treth a chyfraddau treth penodedig yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy, a

(ii)sy’n dod i ben pan fydd y rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), os yw’r dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a bennir gan y rheoliadau a wrthodir fel y rhai sy’n gymwys i’r trafodiad.

(3)Os yw—

(a)y dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, a

(b)is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys,

y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a fyddai wedi bod yn gymwys pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i’r prynwr, yn rhinwedd adran 44, ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, a’i fod yn methu â gwneud hynny, a

(b)pan fo’r prynwr hefyd yn methu â dychwelyd y ffurflen dreth ar y dyddiad y mae’r cyfnod interim yn dod i ben neu cyn hynny.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ffurflen dreth gyntaf sy’n ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad trethadwy yn ofynnol o dan un o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 47 (dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fo digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod);

(b)adran 51 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach);

(c)paragraff 3(4) neu 5(5) o Atodlen 6 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i barhad les);

(d)paragraff 13(1) o’r Atodlen honno (dychwelyd ffurflen dreth yn achos tandaliad treth pan bennir rhent wrth ailystyried).

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo—

(a)y prynwr yn y trafodiad yn gwneud hawliad o dan adran 63A o DCRhT,

(b)yn rhinwedd is-adran (5) o’r adran honno, yr asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gynhwysir mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ddiwygio, ac

(c)ffurflen dreth bellach yn ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad o dan—

(i)darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (5) o’r adran hon,

(ii)adran 49 (dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl), neu

(iii)paragraff 24 o Atodlen 5 (dychwelyd ffurflen dreth pan fo trafodiad yn cael ei drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch).

(7)Ond nid yw is-adran (6) yn effeithio ar ffurflen dreth a ddychwelir cyn i’r hawliad gael ei wneud o dan adran 63A o DCRhT.

(8)Mae adran 63A o DCRhT yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawlio rhyddhad mewn achosion pan fo is-adran (2) yn gymwys os yw swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8A. 26 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

27Swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiolLL+C

(1)Mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â thrafodiad trethadwy nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol (gweler adran 28 ynglŷn â hynny) i’w gyfrifo fel a ganlyn.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo unrhyw swm o dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad trethadwy neu ran ohoni ar ffurf rhent; gweler yn lle hynny—

(a)yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw sy’n gwneud darpariaeth ynglŷn â’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd preswyl;

(b)yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 29 o’r Atodlen honno sy’n darparu ar gyfer cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10A. 27 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

28Swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiolLL+C

(1)Pan fo trafodiad trethadwy yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w bennu fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yr “holl gydnabyddiaeth” yw cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol (heb gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).

(3)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad cysylltiol, neu ran ohoni, ar ffurf rhent nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm unrhyw dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r rhent; gweler yn lle hynny—

(a)yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw, a

(b)yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 30 o’r Atodlen honno (cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12A. 28 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

29Darpariaethau cyfrifo yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol ynglŷn â rhyddhadauLL+C

Mae adrannau 27 a 28 yn ddarostyngedig i—

(a)Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);

(b)paragraff 10 o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);

(c)Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);

(d)paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14A. 29 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3