xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8DEHONGLI A DARPARIAETHAU TERFYNOL

Darpariaethau terfynol

78Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, neu mewn cysylltiad â hi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani).

(3)Os yw offeryn statudol yn cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon y mae Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod yn gwneud darpariaeth a all gael yr effaith a grybwyllir yn is-adran (4), ni chaniateir gwneud yr offeryn oni bai bod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Yr effaith yw, mewn cysylltiad â thrafodiad tir—

(a)bod swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai i’w godi oni wneir y rheoliadau, neu

(b)bod treth i’w chodi pan na fyddai treth i’w chodi oni wneir y rheoliadau.

79Rheoliadau

(1)Mewn perthynas ag unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid ei arfer drwy offeryn statudol, a

(b)mae’n cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—

(a)adran 5(4) (buddiannau esempt);

(b)adran 18(2) (cydnabyddiaeth drethadwy);

(c)adran 24(11) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch);

(d)adran 30(6) (rhyddhadau);

(e)adran 33(7) (cwmnïau);

(f)adran 34(6) (cynlluniau ymddiriedolaeth unedau);

(g)adran 35(1) (cwmnïau buddsoddi penagored);

(h)adran 36(8) (cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth);

(i)adran 41(2) (partneriaethau);

(j)adran 42(2) (ymddiriedolaethau);

(k)adran 46(10) (trothwyon ar gyfer trafodiadau hysbysadwy);

(l)adran 47(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);

(m)adran 49(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);

(n)adran 52(1) (y cyfnod y mae’n rhaid dychwelyd ffurflen dreth o’i fewn);

(o)adran 64(1) (rheoliadau ynghylch gohirio treth);

(p)adran 72(10) (eiddo preswyl);

(q)paragraff 7 o Atodlen 3 (trafodiadau esempt);

(r)paragraff 27(2) o Atodlen 6 (codi treth ar elfen rent lesoedd preswyl);

(s)paragraff 32 o’r Atodlen honno (cyfradd disgownt amser ar gyfer lesoedd);

(t)paragraff 36(1)(b) o’r Atodlen honno (swm penodedig o rent perthnasol);

(u)paragraff 37 o’r Atodlen honno (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36);

(v)paragraff 6(7) o Atodlen 13 (rhyddhad anheddau lluosog: y ganran isaf o dreth sydd i’w phriodoli i anheddau);

(w)paragraff 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael: cyfran y dreth a ryddheir).

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon (ac eithrio offeryn a grybwyllir yn is-adran (4)) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)rheoliadau a wneir o dan adran 24(1) neu baragraff 27(4) neu 28(1) o Atodlen 6 (rheoliadau ynghylch cyfraddau treth a bandiau treth);

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 78 y mae is-adran (3) o’r adran honno yn gymwys iddynt.

80Cymhwyso i’r Goron

(1)Mae’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.

(2)Ond gweler paragraff 2 o Atodlen 3 (sy’n esemptio trafodiadau tir rhag codi treth arnynt pan fo’r prynwr yn un o gyrff penodedig y Goron).

(3)Ac nid oes unrhyw beth ym Mhennod 2 o Ran 6 (atebolrwydd ar gyfer treth a thalu treth) yn effeithio ar weithrediad adrannau 8 a 9 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37).

(4)Nid yw is-adran (1) yn gwneud y Goron yn agored i’w herlyn am drosedd.

81Dod i rym

(1)Daw’r Rhan hon (ac eithrio adran 76 ac Atodlen 23) i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan adran (2) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

82Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.