xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8DEHONGLI A DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli

67Ystyr treth

Ac eithrio fel y darperir fel arall, yn y Ddeddf hon, ystyr “treth” yw treth trafodiadau tir.

68Ystyr prif fuddiant mewn tir

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “prif fuddiant” mewn tir yn gyfeiriadau at—

(a)ystad mewn ffi syml absoliwt, neu

(b)cyfnod o flynyddoedd absoliwt,

pa un a yw’n bodoli mewn cyfraith neu mewn ecwiti.

69Ystyr testun a phrif destun

Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “testun” trafodiad tir yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy a gaffaelir (y “prif destun”), ynghyd ag unrhyw fuddiant neu hawl sy’n perthyn iddo neu sy’n ymwneud ag ef a gaffaelir gydag ef.

70Ystyr gwerth marchnadol

At ddibenion y Ddeddf hon, mae “gwerth marchnadol” i’w bennu yn yr un modd ag y pennir “market value” at ddibenion Deddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (gweler adrannau 272 i 274 o’r Ddeddf honno).

71Ystyr y dyddiad y mae trafodiad yn cael effaith

Ac eithrio fel y darperir fel arall, y dyddiad y mae trafodiad tir yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf hon yw’r dyddiad cwblhau.

72Ystyr eiddo preswyl

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “eiddo preswyl” yw—

(a)adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly;

(b)tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o fewn paragraff (a) (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o’r fath);

(c)buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy’n bodoli er budd adeilad o fewn paragraff (a) neu dir o fewn paragraff (b).

(2)Yn unol â hynny, ystyr “eiddo amhreswyl” yw unrhyw eiddo nad yw’n eiddo preswyl.

(3)Ond gweler y rheol yn is-adran (9) yn achos trafodiad sy’n ymwneud â 6 neu ragor o anheddau.

(4)At ddibenion is-adran (1), mae adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—

(a)llety preswyl ar gyfer disgyblion ysgol;

(b)llety preswyl ar gyfer myfyrwyr, ac eithrio llety o fewn is-adran (5)(b);

(c)llety preswyl ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog;

(d)sefydliad sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa o leiaf 90% o’i breswylwyr ac nad yw o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (f) o is-adran (5).

(5)At ddibenion is-adran (1), nid yw adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—

(a)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl ar gyfer plant;

(b)neuadd breswyl myfyrwyr addysg bellach neu addysg uwch;

(c)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl â gofal personol ar gyfer personau sydd angen gofal personol oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;

(d)ysbyty neu hosbis;

(e)carchar neu sefydliad tebyg;

(f)gwesty neu sefydliad tebyg.

(6)Pan fo adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a bennir yn is-adran (5), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a).

(7)Pan fo adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio yn addas i’w ddefnyddio at o leiaf un o’r dibenion a bennir yn is-adran (4) ac o leiaf un o’r dibenion hynny a bennir yn is-adran (5)⁠—

(a)os oes un defnydd o’r fath y mae’r adeilad yn fwyaf addas ar ei gyfer, neu os yw’r defnyddiau y mae’n fwyaf addas ar eu cyfer oll wedi eu pennu yn yr un is-adran, rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a),

(b)fel arall, mae’r adeilad i’w drin at y dibenion hynny fel pe bai’n addas i’w ddefnyddio fel annedd.

(8)Yn yr adran hon, mae “adeilad” yn cynnwys rhan o adeilad.

(9)Pan fo trafodiad unigol yn ymwneud â 6 neu ragor o anheddau ac yn cynnwys trosglwyddo prif fuddiant ynddynt, neu roi les drostynt, yna, at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw, caiff yr anheddau hynny eu trin fel anheddau amhreswyl.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon.

73Ystyr annedd

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “annedd” yn gyfeiriadau at eiddo preswyl sy’n annedd unigol.

74Cyfeiriadau at bersonau cysylltiedig

(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddibenion unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at berson sy’n gysylltiedig â pherson arall.

(2)Ond gweler y ddarpariaeth benodol a wneir yn y darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 23(3)(b) (eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig mewn trafodiadau gyda chwmnïau cysylltiedig);

(b)paragraffau 16(2)(b) a 24(2)(b) o Atodlen 7 (trafodiadau partneriaeth: pennu’r partneriaid cyfatebol);

(c)paragraff 51 o’r Atodlen honno (partneriaethau: cymhwyso adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) i Atodlen 7 yn gyffredinol);

(d)paragraff 5(5) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp: cwmnïau cyd-fenter);

(e)paragraff 6(3) o’r Atodlen honno (rhyddhad grŵp: trefniadau morgais).

75Diffiniadau eraill

Yn y Ddeddf hon—