ATODLEN 10RHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL
RHAN 3AMGYLCHIADAU PAN NA FO TREFNIADAU WEDI EU RHYDDHAU
I1I26Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson: trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros sefydliad
1
Nid yw paragraff 2 yn gymwys i drefniadau cyllid eraill os yw’r trefniadau hynny, neu unrhyw drefniadau cysylltiedig, yn cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.
2
Mae hynny’n cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol dim ond os bodlonir un neu ragor o amodau (megis digwyddiad neu gyflawni gweithred).
3
Yn y paragraff hwn—
ystyr “sefydliad ariannol perthnasol” (“relevant financial institution”) yw’r sefydliad ariannol sy’n ymrwymo i’r trefniadau cyllid eraill;
ystyr “trefniadau cyllid eraill” (“alternative finance arrangements”) yw’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1);
ystyr “trefniadau cysylltiedig” (“connected arrangements”) yw unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt mewn cysylltiad â gwneud trefniadau cyllid eraill (gan gynnwys trefniadau sy’n ymwneud ag un neu ragor o bersonau nad ydynt yn bartïon i’r trefniadau cyllid eraill).
4
Mae adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn gymwys at ddibenion penderfynu pwy sydd â rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.