ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 4RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL
I1I2C115Rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiad
1
Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth—
a
os bodlonir pob un o amodau 1 i 7, a
b
os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.
2
Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).
3
Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).