ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 3AMODAU AR GYFER GWEITHREDU RHYDDHADAU ETC.
I1I28Amod 3
1
Amod 3 yw, at ddiben cynhyrchu incwm neu enillion ar gyfer y bond buddsoddi cyllid arall—
a
bod B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu, neu
b
bod unrhyw amod arall neu amodau eraill a ragnodir wedi ei fodloni neu wedi eu bodloni.
2
At ddibenion amod 3, mae B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu os yw B yn rhoi i A, allan o’r buddiant a drosglwyddir i B—
a
les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn rhydd-ddaliad), neu
b
is-les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn lesddaliad).