ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

RHAN 3RHYDDHAD AR GYFER PERSONAU SY’N ARFER HAWLIAU AR Y CYD

I1I210Rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo person neu bersonau a enwebir neu a benodir gan denantiaid cymwys fflatiau a gynhwysir mewn mangre yn ymrwymo i drafodiad trethadwy drwy arfer—

a

hawl o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) (hawl i gael y cynnig cyntaf), neu

b

hawl o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (hawl i ryddfreiniad ar y cyd).

2

Pennir swm y dreth sydd i’w godi fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Pennu’r ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gynhyrchir drwy rannu cyfanswm y gydnabyddiaeth honno â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.

  • Cam 2

    Pennu swm y dreth sydd i’w godi o dan adran 27 fel pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad trethadwy y ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gyfrifwyd o dan Gam 1.

  • Cam 3

    Lluosi’r swm a bennwyd yng Ngham 2 â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.

3

Yn y paragraff hwn—

a

mae i “fflat” a “tenant cymwys” yr un ystyron â “flat” a “qualifying tenant” yn y Bennod neu’r Rhan o’r Ddeddf sy’n rhoi’r hawl sy’n cael ei harfer;

b

ystyr “fflat gymwys” yw fflat a ddelir gan denant cymwys sy’n cyfranogi o ran arfer yr hawl.