ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

RHAN 2RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

8Tynnu’n ôl ryddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo

1

Caiff rhyddhad o dan baragraffau 3 (masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd) a 4 (masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

a

yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

b

yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, neu

c

yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd.

2

Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn sy’n caffael yr annedd newydd neu’r ail annedd am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

3

Caiff rhyddhad o dan baragraff 5 (rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael gan gynrychiolwyr personol) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

a

yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

b

yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu

c

yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd.

4

Caiff rhyddhad o dan baragraff 6 (masnachwr eiddo yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

a

yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

b

yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu

c

yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd.

5

Nid yw is-baragraff (4)(b) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn sy’n adleoli am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

6

Pan dynnir rhyddhad yn ôl, swm y dreth sydd i’w godi yw swm y dreth a fyddai i’w godi mewn cysylltiad â’r caffaeliad oni bai am y rhyddhad.