1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau.
(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
(a)mae Rhan 2 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan adeiladwyr tai, masnachwyr eiddo a chyflogwyr, ac mae wedi ei threfnu fel a ganlyn—
(i)mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,
(ii)mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,
(iii)mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri,
(iv)mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol,
(v)mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,
(vi)mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo cyflogwr yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,
(vii)mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu’n ôl y rhyddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo, ac
(viii)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli geiriau ac ymadroddion sy’n gymwys i Ran 2 o’r Atodlen hon;
(b)mae Rhan 3 yn darparu rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan berson neu bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 14 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3