Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

RHAN 5LL+CRHENT I FORGAIS

Rhent i forgais: cydnabyddiaeth drethadwyLL+C

18(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad rhent i forgais yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ystyr trafodiad rhent i forgais yw—

(a)trosglwyddo annedd i berson, neu

(b)rhoi les ar gyfer annedd i berson,

yn unol â’r ffaith fod y person hwnnw yn arfer yr hawl i gaffael ar delerau rhent i forgais o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).

(3)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad rhent i forgais yn gyfwerth â’r pris a fyddai’n daladwy yn rhinwedd adran 126 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68), ar gyfer—

(a)trosglwyddo’r annedd i’r person pan fo’r trafodiad rhent i forgais yn drosglwyddiad, neu

(b)rhoi les ar gyfer yr annedd i’r person pan fo’r trafodiad rhent i forgais yn achos o roi les,

os oedd y prynwr yn arfer yr hawl i brynu o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3