ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

(a gyflwynir gan adran 30(1))

RHAN 1RHAGARWEINIAD

I1I191Trosolwg

1

Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol.

2

Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

a

mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer F3trafodiadau sy’n destun disgownt sector cyhoeddus,

b

mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ymrwymir i les ranberchnogaeth neu drafodiad rhent i les ranberchnogaeth,

c

mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a phan ymrwymir i gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth,

F4d

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

e

mae Rhan 6 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

RHAN 2RHYDDHAD HAWL I BRYNU

I2I202F1Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus

1

Yn achos F5trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus

a

nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a

b

nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

2

Ystyr “F2trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus” yw—

a

gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasolF9...

F9

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

3

Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—

a

un neu ragor o Weinidogion y Goron;

b

Gweinidogion Cymru;

c

awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

d

landlord cymdeithasol cofrestredig;

e

ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);

f

corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);

g

person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

F64

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F75

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

6

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

  • F8...

RHAN 3LESOEDD RHANBERCHNOGAETH

I3I213Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

a

les yn cael ei rhoi—

i

gan gorff cymwysF10...

F10ii

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

b

yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

c

y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

2

Yr amodau yw—

a

bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

b

bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

c

bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;

d

bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

i

gwerth marchnadol yr annedd, neu

ii

swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

e

bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—

i

gwerth marchnadol yr annedd, neu

ii

y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

3

O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—

a

rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

b

mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

4

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

5

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.

6

Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

I4I224Les ranberchnogaeth: trosglwyddo rifersiwn pan ddewisir triniaeth gwerth marchnadol

Mae trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau les y mae paragraff 3 yn gymwys iddi (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os gwnaed dewis o dan baragraff 3, a

b

os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les.

I5I235Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaeth

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

a

les yn cael ei rhoi—

i

gan gorff cymwysF11...

F11ii

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

b

yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

c

y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

2

Yr amodau yw—

a

bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

b

bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

c

bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;

d

bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

i

y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu

ii

swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;

e

bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—

i

y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu

ii

y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

3

O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—

a

rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

b

mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

4

Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

5

Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.

I6I246Les ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—

a

y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a

b

y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu

b

os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.

3

Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.

I7I257Les ranberchnogaeth: rhoi les a thrafodiadau cynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol

At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi wrth roi les ranberchnogaeth ar gyfer annedd, mae rhoi’r les i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

a

unrhyw gaffaeliad buddiant yn yr annedd y mae paragraff 6 yn gymwys iddo, na

b

trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau’r les.

I8I268Rhent i les ranberchnogaeth: y swm y codir treth arno

1

Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i les ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.

2

Ystyr “cynllun rhent i les ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant y mae corff cymwys, oddi tano—

a

yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu i bersonau (“y tenantiaid”), a

b

yn rhoi, wedi hynny, les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd neu annedd arall i’r tenant neu i un neu ragor o’r tenantiaid.

3

Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—

a

rhoi’r contract meddiannaeth;

b

rhoi’r les ranberchnogaeth;

c

unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.

4

At ddibenion pennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith, mae’r ffaith fod y tenant neu’r tenantiaid yn meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth i’w diystyru.

5

Yn y paragraff hwn, mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

I9I279Lesoedd rhanberchnogaeth: dehongli

1

At ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, ystyr “les ranberchnogaeth” yw les a roddir—

a

gan gorff cymwysF12...

F12b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

y bodlonir yr amodau ym mharagraff 3(2) neu 5(2) mewn perthynas â hi.

2

Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i baragraffau 3 i 8.

3

Ystyr “corff cymwys” yw—

a

awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

b

cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);

c

ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

F134

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F145

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4YMDDIRIEDOLAETHAU RHANBERCHNOGAETH

I10I2810Ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: ystyr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a thermau allweddol eraill

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i baragraffau 11 i 17.

2

Ystyr “ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw ymddiriedolaeth tir o fewn yr ystyr a roddir i “trust of land” gan adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.

3

Amod 1 yw bod eiddo’r ymddiriedolaeth—

a

yn annedd, a

b

yng Nghymru.

4

Amod 2 yw bod un o’r buddiolwyr (“y landlord cymdeithasol”) yn gorff cymwys.

5

Amod 3 yw bod telerau’r ymddiriedolaeth—

a

yn darparu y caiff un neu ragor o’r buddiolwyr unigol (“y prynwr”), a neb arall, ddefnyddio eiddo’r ymddiriedolaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr,

b

yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliad cychwynnol i’r landlord cymdeithasol (“y cyfalaf cychwynnol”),

c

yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliadau ychwanegol i’r landlord cymdeithasol ar ffurf taliadau digolledu o dan adran 13(6)(a) o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (“y taliadau cyfwerth â rhent”),

d

yn galluogi’r prynwr i wneud taliadau ychwanegol eraill i’r landlord cymdeithasol (“taliadau caffael ecwiti”),

e

yn pennu buddiannau llesiannol cychwynnol y landlord cymdeithasol a’r prynwr y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar eu sail,

f

yn pennu swm, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr annedd, y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar ei sail, ac

g

yn darparu y bydd buddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cynyddu, a buddiant llesiannol y landlord cymdeithasol yn lleihau neu’n cael ei ddiddymu, wrth i daliadau caffael ecwiti gael eu gwneud.

6

Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

7

Yn Amod 1, mae “annedd” yn cynnwys tir sydd i’w ddefnyddio i adeiladu annedd.

8

Yn Amod 2, ystyr “corff cymwys” yw—

a

awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

b

cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);

c

ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

I11I2911Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y prynwr

At ddibenion y Ddeddf hon, y person neu’r personau a ddynodir fel y prynwr yn unol â pharagraff 10, ac nid y landlord cymdeithasol nac unrhyw fuddiolwr arall, sydd i’w drin (neu i’w trin) fel prynwyr eiddo’r ymddiriedolaeth.

I12I3012Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a

b

pan fo’r prynwr yn gwneud dewis o dan y paragraff hwn.

2

O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—

a

rhaid i hynny gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

b

mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

3

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

a

cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw’r swm a nodir yn unol â pharagraff 10(5)(f), a

b

rhaid diystyru’r taliadau cyfwerth â rhent.

I13I3113Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo buddiant pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben

Mae trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os gwnaed dewis o dan baragraff 12, a

b

os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth.

I14I3214Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth

1

Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, i’w ryddhau rhag treth—

a

os gwnaed dewis am ryddhad o dan baragraff 12, a

b

os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth.

2

Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, hefyd i’w ryddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

I15I3315Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trin taliadau ychwanegol pan na wneir dewis

Pan na wnaed dewis o dan baragraff 12 mewn cysylltiad ag ymddiriedolaeth ranberchnogaeth—

a

mae’r cyfalaf cychwynnol i’w drin fel cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

b

mae unrhyw daliad cyfwerth â rhent gan y prynwr i’w drin fel taliad rhent.

I16I3416Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: datganiad a chynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol

At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

a

unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na

b

trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.

I17I3517Rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y swm y codir treth arno

1

Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.

2

Ystyr “cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant pan fo, oddi tano—

a

corff cymwys yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu bersonau (“y tenantiaid”), a

b

y tenant, neu un neu ragor o’r tenantiaid, yn dod wedi hynny yn brynwr yr annedd, neu annedd arall, o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth y mae’r corff cymwys yn landlord cymdeithasol oddi tani.

3

Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—

a

rhoi’r contract meddiannaeth,

b

datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, ac

c

unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.

4

Yn y paragraff hwn mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

RHAN 5RHENT I FORGAIS

F1518Rhent i forgais: cydnabyddiaeth drethadwy

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 6RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL GAN LANDLORDIAID CYMDEITHASOL COFRESTREDIG

I18I3619Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

1

Mae trafodiad tir y mae’r prynwr oddi tano yn landlord cymdeithasol cofrestredig wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli gan ei denantiaid,

b

os yw’r gwerthwr yn gorff cymwys, neu

c

os defnyddir cymhorthdal cyhoeddus i ariannu’r trafodiad.

2

Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n cael “ei reoli gan ei denantiaid” yn gyfeiriad at landlord cymdeithasol cofrestredig y mae mwyafrif aelodau ei fwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo y mae’r darparwr tai cymwys yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

3

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “aelod o’r bwrdd” (“board member”), mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig—

    1. a

      os yw’n gwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni,

    2. b

      os yw’n gorff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, yw aelod,

    3. c

      os yw’n gorff o ymddiriedolwyr, yw ymddiriedolwr, neu

    4. d

      os nad yw o fewn paragraffau (a) i (c), yw aelod o’r pwyllgor rheoli neu o gorff arall sy’n gyfrifol am gyfarwyddo materion y landlord cymdeithasol cofrestredig;

  • ystyr “corff cymwys” (“qualifying body”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    1. a

      landlord cymdeithasol cofrestredig;

    2. b

      ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50);

    3. c

      cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

    4. d

      cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;

    5. e

      Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “cymhorthdal cyhoeddus” (“public subsidy”) yw unrhyw grant neu gymorth ariannol arall—

    1. a

      a wneir neu a roddir ar ffurf dosbarthiad yn unol ag adran 25 o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (p. 39) (cymhwyso arian gan gyrff dosbarthu),

    2. b

      a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau tai cymdeithasol), neu

    3. c

      o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).