- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(a gyflwynir gan adran 30(1))
1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol.
(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer [F1trafodiadau sy’n destun disgownt sector cyhoeddus],
(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ymrwymir i les ranberchnogaeth neu drafodiad rhent i les ranberchnogaeth,
(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a phan ymrwymir i gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth,
F2(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)mae Rhan 6 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 15 para. 1(2)(a) wedi eu hamnewid (26.1.2019) gan Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(i)(aa) (ynghyd â rhl. 5)
F2Atod. 15 para. 1(2)(d) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(i)(bb) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 15 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 15 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
2(1)Yn achos [F4trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus] —
(a)nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a
(b)nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.
(2)Ystyr “[F5trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus]” yw—
(a)gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasolF6...
F6. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—
(a)un neu ragor o Weinidogion y Goron;
(b)Gweinidogion Cymru;
(c)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
(d)landlord cymdeithasol cofrestredig;
(e)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);
(f)corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);
(g)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
F7(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F8(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(6)Yn y paragraff hwn—
ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
F9...
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 15 Rhn. 2 title wedi ei amnewid (26.1.2019) gan Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(iii)(aa) (ynghyd â rhl. 5)
F4Geiriau yn Atod. 15 para. 2(1) wedi eu hamnewid (26.1.2019) gan Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(ii)(aa) (ynghyd â rhl. 5)
F5Atod. 15 para. 2 pennawd wedi ei amnewid (26.1.2019) gan Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(iii)(bb) (ynghyd â rhl. 5)
F6Atod. 15 para. 2(2)(b) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(ii)(bb)(ii) (ynghyd â rhl. 5)
F7Atod. 15 para. 2(4) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(ii)(cc) (ynghyd â rhl. 5)
F8Atod. 15 para. 2(5) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(ii)(dd) (ynghyd â rhl. 5)
F9Geiriau yn Atod. 15 para. 2(6) wedi eu hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(b)(ii)(ee) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 15 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 15 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)les yn cael ei rhoi—
(i)gan gorff cymwysF10...
F10(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;
(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—
(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.
(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.
Diwygiadau Testunol
F10Atod. 15 para. 3(1)(a)(ii) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(c) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 15 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 15 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
4Mae trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau les y mae paragraff 3 yn gymwys iddi (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3, a
(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 15 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I8Atod. 15 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)les yn cael ei rhoi—
(i)gan gorff cymwysF11...
F11(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;
(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu
(ii)swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;
(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—
(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu
(ii)y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.
Diwygiadau Testunol
F11Atod. 15 para. 5(1)(a)(ii) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(d) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 15 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I10Atod. 15 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—
(a)y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a
(b)y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).
(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu
(b)os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.
(3)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 15 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I12Atod. 15 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
7At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi wrth roi les ranberchnogaeth ar gyfer annedd, mae rhoi’r les i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—
(a)unrhyw gaffaeliad buddiant yn yr annedd y mae paragraff 6 yn gymwys iddo, na
(b)trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau’r les.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 15 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I14Atod. 15 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
8(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i les ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Ystyr “cynllun rhent i les ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant y mae corff cymwys, oddi tano—
(a)yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu i bersonau (“y tenantiaid”), a
(b)yn rhoi, wedi hynny, les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd neu annedd arall i’r tenant neu i un neu ragor o’r tenantiaid.
(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—
(a)rhoi’r contract meddiannaeth;
(b)rhoi’r les ranberchnogaeth;
(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.
(4)At ddibenion pennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith, mae’r ffaith fod y tenant neu’r tenantiaid yn meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth i’w diystyru.
(5)Yn y paragraff hwn, mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 15 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I16Atod. 15 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
9(1)At ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, ystyr “les ranberchnogaeth” yw les a roddir—
(a)gan gorff cymwysF12...
F12(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
y bodlonir yr amodau ym mharagraff 3(2) neu 5(2) mewn perthynas â hi.
(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i baragraffau 3 i 8.
(3)Ystyr “corff cymwys” yw—
(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);
(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
F13(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F14(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F12Atod. 15 para. 9(1)(b) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(e)(i) (ynghyd â rhl. 5)
F13Atod. 15 para. 9(4) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(e)(ii) (ynghyd â rhl. 5)
F14Atod. 15 para. 9(5) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(e)(iii) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 15 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I18Atod. 15 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i baragraffau 11 i 17.
(2)Ystyr “ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw ymddiriedolaeth tir o fewn yr ystyr a roddir i “trust of land” gan adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.
(3)Amod 1 yw bod eiddo’r ymddiriedolaeth—
(a)yn annedd, a
(b)yng Nghymru.
(4)Amod 2 yw bod un o’r buddiolwyr (“y landlord cymdeithasol”) yn gorff cymwys.
(5)Amod 3 yw bod telerau’r ymddiriedolaeth—
(a)yn darparu y caiff un neu ragor o’r buddiolwyr unigol (“y prynwr”), a neb arall, ddefnyddio eiddo’r ymddiriedolaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr,
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliad cychwynnol i’r landlord cymdeithasol (“y cyfalaf cychwynnol”),
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliadau ychwanegol i’r landlord cymdeithasol ar ffurf taliadau digolledu o dan adran 13(6)(a) o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (“y taliadau cyfwerth â rhent”),
(d)yn galluogi’r prynwr i wneud taliadau ychwanegol eraill i’r landlord cymdeithasol (“taliadau caffael ecwiti”),
(e)yn pennu buddiannau llesiannol cychwynnol y landlord cymdeithasol a’r prynwr y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar eu sail,
(f)yn pennu swm, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr annedd, y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar ei sail, ac
(g)yn darparu y bydd buddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cynyddu, a buddiant llesiannol y landlord cymdeithasol yn lleihau neu’n cael ei ddiddymu, wrth i daliadau caffael ecwiti gael eu gwneud.
(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.
(7)Yn Amod 1, mae “annedd” yn cynnwys tir sydd i’w ddefnyddio i adeiladu annedd.
(8)Yn Amod 2, ystyr “corff cymwys” yw—
(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);
(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 15 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I20Atod. 15 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
11At ddibenion y Ddeddf hon, y person neu’r personau a ddynodir fel y prynwr yn unol â pharagraff 10, ac nid y landlord cymdeithasol nac unrhyw fuddiolwr arall, sydd i’w drin (neu i’w trin) fel prynwyr eiddo’r ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 15 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I22Atod. 15 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a
(b)pan fo’r prynwr yn gwneud dewis o dan y paragraff hwn.
(2)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
(a)rhaid i hynny gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw’r swm a nodir yn unol â pharagraff 10(5)(f), a
(b)rhaid diystyru’r taliadau cyfwerth â rhent.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 15 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I24Atod. 15 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
13Mae trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 12, a
(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 15 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I26Atod. 15 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
14(1)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, i’w ryddhau rhag treth—
(a)os gwnaed dewis am ryddhad o dan baragraff 12, a
(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth.
(2)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, hefyd i’w ryddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 15 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I28Atod. 15 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
15Pan na wnaed dewis o dan baragraff 12 mewn cysylltiad ag ymddiriedolaeth ranberchnogaeth—
(a)mae’r cyfalaf cychwynnol i’w drin fel cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a
(b)mae unrhyw daliad cyfwerth â rhent gan y prynwr i’w drin fel taliad rhent.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 15 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I30Atod. 15 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
16At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—
(a)unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na
(b)trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 15 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I32Atod. 15 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
17(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Ystyr “cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant pan fo, oddi tano—
(a)corff cymwys yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu bersonau (“y tenantiaid”), a
(b)y tenant, neu un neu ragor o’r tenantiaid, yn dod wedi hynny yn brynwr yr annedd, neu annedd arall, o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth y mae’r corff cymwys yn landlord cymdeithasol oddi tani.
(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—
(a)rhoi’r contract meddiannaeth,
(b)datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, ac
(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.
(4)Yn y paragraff hwn mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 15 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I34Atod. 15 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
F1518. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F15Atod. 15 para. 18 wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(f) (ynghyd â rhl. 5)
19(1)Mae trafodiad tir y mae’r prynwr oddi tano yn landlord cymdeithasol cofrestredig wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli gan ei denantiaid,
(b)os yw’r gwerthwr yn gorff cymwys, neu
(c)os defnyddir cymhorthdal cyhoeddus i ariannu’r trafodiad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n cael “ei reoli gan ei denantiaid” yn gyfeiriad at landlord cymdeithasol cofrestredig y mae mwyafrif aelodau ei fwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo y mae’r darparwr tai cymwys yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.
(3)Yn y paragraff hwn—
ystyr “aelod o’r bwrdd” (“board member”), mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig—
os yw’n gwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni,
os yw’n gorff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, yw aelod,
os yw’n gorff o ymddiriedolwyr, yw ymddiriedolwr, neu
os nad yw o fewn paragraffau (a) i (c), yw aelod o’r pwyllgor rheoli neu o gorff arall sy’n gyfrifol am gyfarwyddo materion y landlord cymdeithasol cofrestredig;
ystyr “corff cymwys” (“qualifying body”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
landlord cymdeithasol cofrestredig;
ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50);
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);
cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;
Gweinidogion Cymru;
ystyr “cymhorthdal cyhoeddus” (“public subsidy”) yw unrhyw grant neu gymorth ariannol arall—
a wneir neu a roddir ar ffurf dosbarthiad yn unol ag adran 25 o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (p. 39) (cymhwyso arian gan gyrff dosbarthu),
a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau tai cymdeithasol), neu
o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 15 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I36Atod. 15 para. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: