ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL
RHAN 2RHYDDHAD ATGYFANSODDI
I1I22Rhyddhad atgyfansoddi
1
Pan fo—
a
cwmni (“y cwmni caffael”) yn caffael holl ymgymeriad cwmni arall (“y cwmni targed”), neu ran o’i ymgymeriad, yn unol â chynllun i atgyfansoddi’r cwmni targed, a
b
yr amod cyntaf a’r ail amod a bennir isod wedi eu bodloni,
mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion trosglwyddo ymgymeriad neu ran o ymgymeriad, neu mewn cysylltiad â hynny, wedi ei ryddhau rhag treth.
2
Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad atgyfansoddi”.
3
Yr amod cyntaf yw bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy yn y cwmni caffael i holl gyfranddalwyr y cwmni targed.
4
Pan fo’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy, ni fodlonir yr amod hwnnw oni bai bod gweddill y gydnabyddiaeth yn llwyr ar ffurf ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau’r cwmni targed gan y cwmni caffael.
5
Yn is-baragraffau (3) a (4), ystyr “cyfranddaliadau anatbrynadwy” yw cyfranddaliadau nad ydynt yn gyfranddaliadau atbrynadwy.
6
Yr ail amod yw bod, ar ôl i’r caffaeliad gael ei wneud—
a
pob cyfranddaliwr ym mhob un o’r cwmnïau yn gyfranddaliwr yn y cwmni arall, a
b
y gyfran o gyfranddaliadau un o’r cwmnïau sy’n cael ei dal gan unrhyw gyfranddaliwr yr un fath, neu bron iawn yn union yr un fath, â’r gyfran o gyfranddaliadau sy’n cael ei dal gan y cyfranddaliwr hwnnw yn y cwmni arall.
7
Os yw’r cwmni targed neu’r cwmni caffael, yn union cyn y caffaeliad, yn dal unrhyw un neu ragor o’i gyfranddaliadau ei hun, mae’r cyfranddaliadau i’w trin at ddibenion is-baragraffau (3) a (6) fel pe baent wedi eu canslo cyn y caffaeliad (ac felly, mae’r cwmni i’w drin fel pe na bai’n gyfranddaliwr ynddo’i hun).
8
Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 5 (tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).