ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL

RHAN 3RHYDDHAD CAFFAEL

I1I23Rhyddhad caffael

1

Pan fo—

a

cwmni (“y cwmni caffael”) yn caffael holl ymgymeriad cwmni arall (“y cwmni targed”) neu ran o’i ymgymeriad, a

b

pob un o’r amodau a bennir isod wedi eu bodloni,

mae swm y dreth sydd i’w godi ar drafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion neu mewn cysylltiad â throsglwyddo’r ymgymeriad neu’r rhan o ymgymeriad wedi ei gyfyngu i 0.5% o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (neu unrhyw gyfran arall o’r gydnabyddiaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan y paragraff hwn.)

2

Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad caffael”.

3

Yr amod cyntaf yw bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy yn y cwmni caffael—

a

i’r cwmni targed, neu

b

i holl gyfranddalwyr y cwmni targed, neu i unrhyw un neu ragor ohonynt.

4

Pan fo’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy, ni fodlonir yr amod hwnnw oni bai bod gweddill y gydnabyddiaeth yn llwyr ar ffurf—

a

arian parod heb fod uwchlaw 10% o werth nominal y cyfranddaliadau anatbrynadwy a ddyroddir felly,

b

y cwmni caffael yn ysgwyddo neu’n cyflawni rhwymedigaethau’r cwmni targed, neu

c

y ddau beth hynny.

5

Yn is-baragraffau (3) a (4), ystyr “cyfranddaliadau anatbrynadwy” yw cyfranddaliadau nad ydynt yn gyfranddaliadau atbrynadwy.

6

Yr ail amod yw nad oes cyswllt rhwng y cwmni caffael a chwmni arall sy’n barti i drefniadau gyda’r cwmni targed yn ymwneud â chyfranddaliadau’r cwmni caffael a ddyroddir mewn cysylltiad â throsglwyddo’r ymgymeriad neu’r rhan o ymgymeriad.

7

At y diben hwn, mae cyswllt rhwng cwmnïau os oes gan un reolaeth dros y llall neu os caiff y naill a’r llall eu rheoli gan yr un person neu bersonau; ac mae’r cyfeiriad at “rheolaeth” i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

8

Y trydydd amod yw mai prif weithgaredd yr ymgymeriad neu’r rhan o ymgymeriad a gaffaelir gan y cwmni caffael yw cynnal masnach nad yw’n llwyr neu’n bennaf ar ffurf delio mewn buddiannau trethadwy.

9

Yn is-baragraff (8), mae i “masnach” yr un ystyr â “trade” yn adran 1119 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

10

Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw drefniant neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

11

Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 5 (tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).