Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Elusen nad yw’n elusen gymwys

This section has no associated Explanatory Notes

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan na fo trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 am nad yw’r prynwr yn elusen gymwys, ond

(b)bod y prynwyr yn elusen (“E”) sy’n bwriadu dal y rhan fwyaf o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)Mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau 3 a 4 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond

(b)at ddibenion paragraff 4, mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E⁠—

(i)unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;

(ii)unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.

(3)Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 4—

(a)dyddiad y digwyddiad datgymhwyso at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a

(b)mae paragraff 4 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).

(4)Yr addasiadau i baragraff 4 yw—

(a)mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;

(b)mae is-baragraff (6)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;

(c)mae is-baragraff (6) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a

(b)mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a

(b)mae i “rhent” yr ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.