5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan na fo trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 am nad yw’r prynwr yn elusen gymwys, ond
(b)bod y prynwyr yn elusen (“E”) sy’n bwriadu dal y rhan fwyaf o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.
(2)Mewn achos o’r fath—
(a)mae paragraffau 3 a 4 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond
(b)at ddibenion paragraff 4, mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E—
(i)unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;
(ii)unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.
(3)Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 4—
(a)dyddiad y digwyddiad datgymhwyso at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a
(b)mae paragraff 4 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).
(4)Yr addasiadau i baragraff 4 yw—
(a)mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;
(b)mae is-baragraff (6)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;
(c)mae is-baragraff (6) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.
(5)At ddibenion y paragraff hwn—
(a)rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a
(b)mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.
(6)Yn y paragraff hwn—
(a)mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a
(b)mae i “rhent” yr ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 18 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 18 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3