ATODLEN 18RHYDDHAD ELUSENNAU
I1I101Trosolwg
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol,
F2aa
mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,
b
mae paragraff 3 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael i elusen sy’n brynwr mewn trafodiad tir ac o dan ba amgylchiadau y mae ar gael,
c
mae paragraff 4 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl,
d
mae paragraff 5 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 3 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl,
e
mae paragraff 6 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan fo o leiaf un elusen ac o leiaf un person nad yw’n elusen yn brynwyr mewn trafodiad tir,
f
mae paragraff 7 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad hwnnw ei dynnu’n ôl,
g
mae paragraff 8 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 6 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl, a
h
mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau sydd ar gael i ymddiriedolaethau elusennol.
I2I112Termau allweddol
1
Yn yr Atodlen hon, mae elusen (“E”) sy’n brynwr mewn trafodiad tir yn “elusen gymwys”—
a
at ddibenion paragraffau 3, 4 a 5, os yw E yn bwriadu dal holl destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys;
b
at ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, os yw E yn bwriadu dal ei holl gyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.
2
At ddibenion yr Atodlen hon, mae E yn dal testun y trafodiad “at ddibenion elusennol cymwys” os yw E yn ei ddal—
a
i’w ddefnyddio er mwyn hybu dibenion elusennol E neu elusen arall, neu
b
fel buddsoddiad y defnyddir yr elw ohono at ddibenion elusennol E.
3
Yn yr Atodlen hon—
a
mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan F3baragraff 2A , a
b
mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25).
4
Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas ag E sy’n brynwr mewn trafodiad tir, ceir “digwyddiad datgymhwyso” pan fo—
a
E yn peidio â bod yn sefydledig at ddibenion elusennol yn unig, neu
b
holl destun neu unrhyw ran o destun y trafodiad a ryddheir rhag treth o dan yr Atodlen hon, neu unrhyw fuddiant neu hawl sy’n deillio ohono, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan E at ddibenion heblaw dibenion elusennol cymwys.
2AF1Ystyr “elusen”
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “elusen” yw corff o bersonau neu ymddiriedolaeth—
a
sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig,
b
sy’n bodloni’r amod awdurdodaeth (gweler paragraff 2B),
c
sy’n bodloni’r amod cofrestru (gweler paragraff 2C), a
d
sy’n bodloni’r amod rheoli (gweler paragraff 2D).
2BYstyr “elusen”: yr amod awdurdodaeth
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.
2
Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—
a
yr Uchel Lys,
b
y Llys Sesiwn, neu
c
yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.
2CYstyr “elusen”: yr amod cofrestru
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—
a
yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a
b
yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.
2
Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.
3
Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
2DYstyr “elusen”: yr amod rheoli
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.
2
Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.
3
Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.
4
Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—
a
nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu
b
ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.
I3I123Y rhyddhad
1
Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan fo’r prynwr yn elusen gymwys.
2
Ond gweler paragraff 4 (tynnu rhyddhad yn ôl).
I4I134Tynnu rhyddhad elusennau yn ôl
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 (“y trafodiad a ryddheir”),
b
digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas ag elusen (“E”) a oedd y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, ac
c
y digwyddiad datgymhwyso o dan yr amgylchiadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (3) a (4).
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff rhyddhad o dan baragraff 3 ei dynnu’n ôl, neu gyfran briodol ohono ei thynnu’n ôl, ac mae treth i’w chodi (gweler is-baragraff (5)).
3
Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso fod—
a
cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu
b
yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.
4
Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, rhaid i E ddal buddiant trethadwy—
a
a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir, neu
b
sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly.
5
Y swm sydd i’w godi yw swm y dreth a fyddai wedi bod i’w godi oni bai am baragraff 3 neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r swm hwnnw.
6
Ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—
a
yr hyn a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir a’r hyn a ddelir gan E ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a
b
i ba raddau y mae’r hyn a ddelir gan E ar yr adeg honno yn cael neu’n dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.
I5I145Elusen nad yw’n elusen gymwys
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan na fo trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 am nad yw’r prynwr yn elusen gymwys, ond
b
bod y prynwyr yn elusen (“E”) sy’n bwriadu dal y rhan fwyaf o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.
2
Mewn achos o’r fath—
a
mae paragraffau 3 a 4 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond
b
at ddibenion paragraff 4, mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E—
i
unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;
ii
unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.
3
Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 4—
a
dyddiad y digwyddiad datgymhwyso at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a
b
mae paragraff 4 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).
4
Yr addasiadau i baragraff 4 yw—
a
mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;
b
mae is-baragraff (6)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;
c
mae is-baragraff (6) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.
5
At ddibenion y paragraff hwn—
a
rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a
b
mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.
6
Yn y paragraff hwn—
a
mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a
b
mae i “rhent” yr ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.
I6I156Pryniant ar y cyd gan elusen gymwys a pherson arall: rhyddhad rhannol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo dau brynwr neu ragor mewn trafodiad tir,
b
pan fo’r prynwyr yn caffael testun y trafodiad fel tenantiaid ar y cyd, ac
c
pan fo o leiaf un o’r prynwyr yn elusen gymwys ac o leiaf un o’r prynwyr yn berson arall nad yw’n elusen gymwys.
2
Caiff y dreth a godir mewn cysylltiad â’r trafodiad ei gostwng yn ôl swm y rhyddhad o dan is-baragraff (3) (ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad rhannol yn ôl)).
3
Mae’r rhyddhad yn gyfwerth â’r gyfran berthnasol o’r dreth y byddid wedi ei chodi fel arall, gan anwybyddu paragraff 3, mewn cysylltiad â’r trafodiad.
4
Yn achos elusen gymwys, “y gyfran berthnasol” yw’r isaf o C1 a C2, pan fo—
C1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd);
C2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd).
I7I167Tynnu rhyddhad rhannol yn ôl
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 6 (“y trafodiad a ryddheir”),
b
digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas ag elusen (“E”) a oedd y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, a
c
y digwyddiad datgymhwyso o dan yr amgylchiadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (3) a (4).
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff rhan E o’r rhyddhad, neu gyfran briodol o ran E o’r rhyddhad hwnnw, ei thynnu’n ôl ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn (gweler is-baragraff (5)).
3
Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso fod—
a
cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu
b
yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.
4
Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, rhaid i E ddal buddiant trethadwy—
a
a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir, neu
b
sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly.
5
Mae’r swm trethadwy yn gyfwerth â rhan E o’r rhyddhad neu, yn ôl y digwydd, y gyfran briodol o ran E o’r rhyddhad.
6
Mae rhan E o’r rhyddhad yn dibynnu ar ba un ai C1 neu C2 oedd isaf yn y cyfrifiad o dan baragraff 6.
7
Os C1 oedd isaf, mae rhan E o’r rhyddhad yn gyfwerth â—
Ffigwr 14
pan fo—
c1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad;
C1 â’r un ystyr ag ym mharagraff 6(4);
Rh yn swm y rhyddhad.
8
Os C2 oedd isaf, mae rhan E o’r rhyddhad yn gyfwerth â—
Ffigwr 15
pan fo—
c2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddwyd gan E;
C2 â’r un ystyr ag ym mharagraff 6(4);
Rh yn swm y rhyddhad.
9
Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—
a
yr hyn a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir a’r hyn a ddelir gan E ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a
b
i ba raddau y mae’r hyn a ddelir gan E ar yr adeg honno yn cael neu’n dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.
I8I178Rhyddhad rhannol: elusen nad yw’n elusen gymwys
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo elusen (“E”) yn un o ddau brynwr neu ragor sy’n caffael testun trafodiad tir fel tenantiaid ar y cyd,
b
pan na fo E yn elusen gymwys,
c
pan fyddai paragraff 6(2) i (4) yn gymwys pe bai E yn elusen gymwys, a
d
pan fo E yn bwriadu dal y rhan fwyaf o’i chyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.
2
Mewn achos o’r fath—
a
mae paragraffau 6 a 7 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond
b
at ddibenion paragraff 7 mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E—
i
unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;
ii
unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.
3
Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 7—
a
dyddiad y digwyddiad at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a
b
mae paragraff 7 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).
4
Yr addasiadau i baragraff 7 yw—
a
mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;
b
mae is-baragraff (9)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;
c
mae is-baragraff (9) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.
5
At ddibenion y paragraff hwn—
a
rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a
b
mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.
6
Yn y paragraff hwn—
a
mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a
b
mae i “rhent” yr un ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.
I9I189Cymhwyso’r Atodlen hon i ymddiriedolaethau penodol
1
Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r ymddiriedolaethau a ganlyn fel y mae’n gymwys i elusen ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (2)—
a
ymddiriedolaeth y mae’r holl fuddiolwyr ynddi yn elusennau, neu
b
cynllun ymddiriedolaeth unedau y mae’r holl ddeiliaid unedau ynddo yn elusennau.
2
Yr addasiadau i’r Atodlen hon yw—
a
mae’r cyfeiriadau ym mharagraff 2(2) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt;
b
mae’r cyfeiriadau at E ym mharagraff 2(4) i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau;
c
mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 5(2)(b) ac 8(2)(b) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt.