Search Legislation

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 10

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Tynnu rhyddhad yn ôlLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

[F110.(1)Yn y Rhan hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth o dan Ran 2 fel “trafodiad sydd wedi ei ryddhau”; ac yn unol â hynny mae cyfeiriadau at “prynwr” a “tir cymhwysol” yn gyfeiriadau at y prynwr a’r tir cymhwysol yn y trafodiad sydd wedi ei ryddhau.

(2)Caiff rhyddhad ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad sydd wedi ei ryddhau os na ddefnyddir y tir cymhwysol mewn modd cymhwysol yn unig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod rheoli.

(3)Ond nid yw’r rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl pan, oherwydd newid mewn amgylchiadau nas rhagwelwyd ac sydd y tu hwnt i reolaeth y prynwr, nad yw’n rhesymol disgwyl i’r tir cymhwysol gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig ar yr adeg honno.

(4)Pan na ddechreuwyd defnyddio’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw.

(5)Pan fo’r defnydd o’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, wedi peidio, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd—

(a)i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw, neu

(b)i waredu’r holl fuddiannau trethadwy yn y tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, a ddelir gan y prynwr a phersonau cysylltiedig mewn modd amserol.]

Back to top

Options/Help