xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 21A wedi ei fewnosod (26.11.2024) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/1193), rhlau. 1(2), 2(5)
10.(1)Yn y Rhan hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth o dan Ran 2 fel “trafodiad sydd wedi ei ryddhau”; ac yn unol â hynny mae cyfeiriadau at “prynwr” a “tir cymhwysol” yn gyfeiriadau at y prynwr a’r tir cymhwysol yn y trafodiad sydd wedi ei ryddhau.
(2)Caiff rhyddhad ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad sydd wedi ei ryddhau os na ddefnyddir y tir cymhwysol mewn modd cymhwysol yn unig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod rheoli.
(3)Ond nid yw’r rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl pan, oherwydd newid mewn amgylchiadau nas rhagwelwyd ac sydd y tu hwnt i reolaeth y prynwr, nad yw’n rhesymol disgwyl i’r tir cymhwysol gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig ar yr adeg honno.
(4)Pan na ddechreuwyd defnyddio’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw.
(5)Pan fo’r defnydd o’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, wedi peidio, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd—
(a)i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw, neu
(b)i waredu’r holl fuddiannau trethadwy yn y tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, a ddelir gan y prynwr a phersonau cysylltiedig mewn modd amserol.]