ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

I1I235

Yn adran 90 (gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadau)—

a

yn is-adran (1), yn lle “ymgymeriad arall (“is-ymgymeriad”)” rhodder “is-ymgymeriad”;

b

yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “adran 1162” i’r diwedd rhodder “adrannau 1161 a 1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) ac Atodlen 7 iddi, ond o ran cymhwyso’r adran hon i dreth trafodiadau tir, mae adran 1161(1)(b) o’r Ddeddf 2006 honno yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “carrying on a trade or business, with or without a view to profit” wedi eu hepgor.”