ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

42

Yn lle adran 122 rhodder—

122Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd

1

Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

2

Y gosb yw 5% o swm y dreth nas talwyd.

3

Yn yr adran hon ac yn adran 122A, y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1

Eitem

Y dreth ddatganoledig

Swm y dreth

Y dyddiad cosbi

1

Treth trafodiadau tir

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

2

Treth gwarediadau tirlenwi

Swm a ddatgenir mewn ffurflen dreth.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

3

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.

4

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.

5

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).

6

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).

7

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).

8

Treth trafodiadau tir

Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.

9

Treth trafodiadau tir

Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.

10

Treth gwarediadau tirlenwi

Swm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.

11

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

4

Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

5

Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.

122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

2

Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

3

Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

4

Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

5

Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.