6LL+CAr ôl adran 38 mewnosoder—
“38ADyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: trafodiadau tir nad oes angen dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â hwy
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, ac eithrio trafodiad o fath a restrir yn adran 65(4) o DTTT, nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad ag ef.
(2)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo—
(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen i alluogi’r prynwr i ddangos nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth, a
(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.
(3)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y dyddiad perthnasol.
(4)Y “dyddiad perthnasol” yw chwe mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
(5)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.
(6)Caniateir pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (5).
(7)Yn is-adran (4), mae i’r “dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith” yr un ystyr ag yn DTTT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 23 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 23 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3