ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
66
O flaen adran 188 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.) mewnosoder—
“187ACymhwyso i’r Goron at ddibenion Treth Trafodiadau Tir
(1)
I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—
(a)
Rhan 3;
(b)
Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);
(c)
Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));
(d)
Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);
(e)
Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);
(f)
adrannau 190 a 191.
(2)
Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).”