xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 23LL+CDIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

69LL+CYn adran 191 (rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani” rhodder “Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,”, a

(ii)ar ôl “i berson”, mewnosoder “ddychwelyd ffurflen dreth neu”;

(b)yn lle is-adran (2), mewnosoder—

(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)bod ar ba bynnag ffurf,

(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,

(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a

(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,

a bennir gan ACC.;

(c)yn is-adran (3), yn lle “y Ddeddf hon neu oddi tani” rhodder “Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 23 para. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 23 para. 69 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)