ATODLEN 3TRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT

I1I25Cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol

1

Mae caffael eiddo gan berson wrth ddiwallu hawlogaeth y person o dan neu mewn perthynas ag ewyllys person ymadawedig, neu tuag at hynny, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig, yn esempt rhag codi treth arno.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n caffael yr eiddo yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth amdano, ac eithrio ysgwyddo dyled sicredig.

3

Pan na fo is-baragraff (1) yn gymwys oherwydd is-baragraff (2), pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(1) o Atodlen 4.

4

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyled” (“debt”) yw rhwymedigaeth, pa un ai’n bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu ar ddyddiad yn y dyfodol, ac

  • ystyr “dyled sicredig” (“secured debt”) yw dyled a sicrheir ar yr eiddo yn union ar ôl marwolaeth y person ymadawedig.