5(1)Mae caffael eiddo gan berson wrth ddiwallu hawlogaeth y person o dan neu mewn perthynas ag ewyllys person ymadawedig, neu tuag at hynny, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig, yn esempt rhag codi treth arno.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n caffael yr eiddo yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth amdano, ac eithrio ysgwyddo dyled sicredig.
(3)Pan na fo is-baragraff (1) yn gymwys oherwydd is-baragraff (2), pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(1) o Atodlen 4.
(4)Yn y paragraff hwn—
ystyr “dyled” (“debt”) yw rhwymedigaeth, pa un ai’n bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu ar ddyddiad yn y dyfodol, ac
ystyr “dyled sicredig” (“secured debt”) yw dyled a sicrheir ar yr eiddo yn union ar ôl marwolaeth y person ymadawedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3