ATODLEN 3TRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT
7Pŵer i ychwanegu, i dynnu ymaith neu i amrywio esemptiadau
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Atodlen hon er mwyn—
a
darparu i drafodiad tir o unrhyw ddisgrifiad arall fod yn esempt rhag codi treth arno;
b
darparu nad yw disgrifiad o drafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno mwyach;
c
amrywio disgrifiad o drafodiad tir sy’n esempt rhag codi treth arno.